Cherddorfa Ffilharmonig Mosgo

Date: 14/05/2017
Venue: Neuadd Dewi Sant / St David's Hall
Time: 15:30

Arweinydd Yuri Simonov            

Unawdydd Natalia Lomeiko, Violin  

Rimsky-Korsakov Sadko 11' 

Shostakovich Violin Concerto No 1 35' 

Prokoflev Romeo and Juliet (excerpts) 40' 

Ymunwch a Cherddorfa Ffilharmonig Mosgo mewn noson o ffantasi a thrasiedi ramantaidd o Rwsia: gorfoledd a thorcalon bale Prokofiev, Romeo a Juliet, a Choncerto Feiolin Cyntaf Shostakovich gyda’r feiolinydd Natalia Lomeiko. Mae’r gerddoriaeth yn ferw gan ddicter, ond yna’n camu at lonyddwch pur. Ac mae elfennau nodweddiadol o waith cynnar Rimsky i’w gweld hefyd: mae Sadko’n adrodd stori cerddor a swynodd holl greaduriaid y mor i ddawnsio.

“Here’s an essentially romantic temperament, as witnessed by some sumptuous Tchaikovsky performances... a tone of viola-like intensity.” THE STRAD

“Natalia Lomeiko is one of the most brilliant of our younger violinists.” YEHUDI MENUHI


Y Gyfres Cyngherddau Rhyngwladol: Ychwanegion

Mae ein Cyfres Cyngherddau Rhyngwladol: Ychwanegion yn cynnig i gynulleidfaoedd y cyfle i gael rhywbeth bach dros ben ar gorn eu noson yn Neuadd Dewi Sant.  Dyma’r hyn sydd ar gael yn y cyngerdd hwn:

2.30pm, Lefel 1. Y Gyfres Cyngherddau Rhyngwladol: Digwyddiad cyn y Perfformiad...Sophie Rashbrook yn sgwrsio â Natalia Lomeiko

Sophie Rashbrook yn dod at y ffidler Natalia Lomeiko yn ein studio Lefel 1. 

Digwyddiad am ddim ydi hwn. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma

3pm, Llwyfan cyntedd Lefel 3. Y Gyfres Cyngherddau Rhyngwladol: Artistiaid Ifainc...Elizabeth French (graddedigyn ffidil, CBCDC) 

Digwyddiad am ddim ydi hwn.  I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma

5.45pm, Lefel 1.  Y Gyfres Cyngherddau Rhyngwladol: Nodiadau Terfynol...Cantorion Seren 

Daw’r côr siambr sydd â’i gartref yng Nghaerdydd, Cantorion Seren, aton ni i berfformio cerddoriaeth gorawl gan Rimsky-Korsakov. 

Tocynnau: £1.50 ar y drws, neu godi tocynnau ymlaen llaw heddiw drwy roi caniad i Swyddfa Docynnau Neuadd Dewi Sant ar 029 2087 8444. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma .