The triumph of distrust: the 1917 revolutions and Soviet society

Date: 13/02/2017
Venue: Prifysgol Caerdydd / Cardiff University
Time: 18:30

Mae arbenigwr am hanes Rwsia fodern am draddodi darlith bwysig ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhan o ddathliadau i goffáu canmlwyddiant dechrau Chwyldro Rwsia ar draws y ddinas.Bydd Athro Emeritws Hanes Rwsia, Geoffrey Hosking, yn traddodi darlith gyhoeddus The triumph of distrust: the 1917 revolutions and Soviet society.

Meddai Dr James Ryan, sy'n Ddarlithydd Hanes Modern Ewropeaidd: "2017 yw canmlwyddiant y digwyddiadau yn Rwsia sydd wedi cael effaith sylweddol ar beth ddigwyddiad wedi hynny dros ran helaeth o'r byd. Fel Prifysgol, mae'n bleser gennym rannu arwyddocâd ac etifeddiaeth y chwyldroadau gyda'n cymuned ehangach yn ogystal â dechrau trafodaeth yn rhan o ddigwyddiadau R17 ar draws y brifddinas."

Yr Athro Hosking, Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Rwsia-Prydain Fawr, yw un o'r haneswyr mwyaf adnabyddus ac awdurdodol am Rwsia fodern. Mae ei waith yn cynnwys Rulers and Victims: The Russians in the Soviet Union. Mae ei lyfr diweddaraf Trust: A History wedi'i gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Rhydychen.

Cynhelir darlith gyhoeddus yn ystod yr un mis pan fydd haneswyr o Moscow yn ymweld â Chaerdydd. 

Bydd dirprwyaeth o Rwsia yn arwain seminarau a darlithoedd am agweddau amrywiol o Chwyldroadau 1917 yn ystod yr ymweliad wythnos o hyd. Bydd hyn yn rhan o raglen gyfnewid Erasmus+ rhwng Prifysgol Caerdydd ac Academi Gwyddorau fawreddog Rwsia. 

Argymhellir i chi gadw lle ymlaen llaw.