Twilight of the Tsars: Gŵyl Cerddoriaeth Siambwr

Date: 16/02/2017 to 19/02/2017
Venue: Royal Welsh College of Music and Drama / Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru

Wrth i’r haul fachlud ar linach y Romanov ac wrth i ymerodraeth a fu mewn bodolaeth am 300 mlynedd fynd bendramwnwgl i ryfel a chwyldro, mae cerddoriaeth Rwsia yn tanio. Ganrif wedi i’r byd hwnnw ddod i ben am byth, bydd Pedwarawd Endellion yn ymuno ag artistiaid preswyl Coleg Brenhinol Cymru, Triawd Piano Gould, er mwyn archwilio ffyniant cerddorol rhyfeddol Rwsia cyn y chwyldro. Ceir cerddoriaeth siambr gan Borodin, Tchaikovsky a Rachmaninov, perlau prin gan Arensky, Glinka a Glazunov a rhai darnau hyfryd a ail-ganfuwyd. Dyma gerddoriaeth ystafelloedd croeso St Petersburg a hafau hir ar ystadau gwledig; caneuon gwerin, chwedlau tylwyth teg ac ysblander Ymerodrol.

Ymunwch â ni ar gyfer taith i fyd coll.

Ewch i www.rwcmd.ac.uk i weld y rhestr lawn o’r gweithiau ac amserlen y perfformiadau.

Cyntedd a Neuadd Dora Stoutzker 

Tocynnau: Am Ddim - £12