Opera Cenedlaethol Cymru yn yr Amgueddfa

Date: 16/09/2017
Venue: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd / National Museum Cardiff, Caerdydd / Cardiff
Time: 14:00


Diwrnod am Ddim i’r Teulu – dim angen archebu – dewch i ymuno yn yr hwyl! 2-4pm 

WNO mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd 

Eisiau gwybod beth sy’n digwydd go iawn pan fydd yr opera’n dod i’r dref? I gael gweld beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni yn Opera Cenedlaethol Cymru, dewch draw i Amgueddfa Cymru, Caerdydd i gymryd rhan mewn diwrnod cerddorol gwahanol, i’r teulu cyfan.  

Rhai o’r gweithgareddau i’r teulu: sesiynau cerdd, arddangosiadau colur ar gyfer opera, creu propiau, gemau canu a cherddorfaol, gweithdai drymio (does dim angen profiad!), gweithdai adrodd stori, helfa drysor gyda thema opera, ac opera wib gyda rhai o unawdwyr byd-enwog WNO. 

I’r rhai sy’n awyddus i ddysgu mwy am y cwmni, bydd sgwrs a datganiad yn seiliedig ar waith cyfansoddwyr y Tymor hwn.

Mae Tymor Hydref WNO yn rhan o R17, sef rhaglen o ddigwyddiadau ledled Cymru i nodi cant o flynyddoedd ers Chwyldro Rwsia.