Ymweliad arbennig Valery Gergiev i Gymru ar gyfer R17

11/10/2017

Mae un o arweinwyr mwyaf poblogaidd y byd, Valery Gergiev, wedi ymweld â Chymru fel rhan o'r tymor celf coffaol: R17.

Ar ddydd Mawrth 10 Hydref, wnaeth cyfarwyddwr artistig a chyffredinol Theatr Mariinsky yn St Petersburg darparu dosbarth meistr unigryw i fyfyrwyr cerddoriaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, a chynnal ymarfer gyda'r Mariinsky Stradivarius Ensemble yn Neuadd Dora Stoutzker.

Wedi'i ddisgrifio fel "arweinydd prysuraf y byd", mae’r gwr o Rwsia, Valery Gergiev, yn un o noddwr y tymor R17 ynghyd â'r actor Michael Sheen.

Meddai Valery Gergiev: "Fel pennaeth un o eiconau mwyaf diwylliant Rwsia, y Theatr Mariinsky yn St Petersburg, mae’n cynhesu fy nghalon bod prif sefydliadau diwylliannol Cymru yn ymuno â'i gilydd i ddathlu cyfoeth artistig fy ngwlad, sydd wedi ysbrydoli cynifer.  Mae canmlwyddiant Chwyldro Rwsia yn amser i fyfyrio ac mae'r celfyddydau yn gyfrwng delfrydol i archwilio'r digwyddiad hanesyddol hynod. Mae gen i lawer o atgofion hapus o arwain Opera, Ballet a Cherddorfa Mariinsky yng Nghymru ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld eto yn ystod Tymor R17 gyda’r Mariinsky Stradivarius Ensemble. Rwyf wrth fy modd i fod yn un o noddwr Tymor 17 Rwsia yng Nghymru." 

Back