Valery Gergiev yn ymweld â Chymru ar gyfer digwyddiad eithriadol R17

12/09/2017


Mae un o arweinwyr mwyaf poblogaidd y byd, Valery Gergiev, i ymweld â Chymru ym mis Hydref fel rhan o'r tymor celf coffaol: R17.

Mae R17 (neu "Rwsia 17") yn nodi 100 mlynedd ers chwyldro Rwsia, a pherthynas unigryw Cymru gyda’r Undeb Sofietaidd eginol ar y pryd, trwy dymor blwyddyn o hyd o ddigwyddiadau artistig. Ar ddydd Mawrth 10 Hydref, bydd cyfarwyddwr artistig a chyffredinol Theatr Mariinsky yn St Petersburg yn darparu dosbarth meistr unigryw i fyfyrwyr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, a chynnal cyngerdd gyda'r nos gyda'r Mariinsky Stradivarius Ensemble.

Wedi'i ddisgrifio fel "arweinydd prysuraf y byd", mae’r gwr o Rwsia, Valery Gergiev, yn un o noddwr y tymor R17 ynghyd â'r actor Michael Sheen. Bydd Gergiev yn arwain y chwaraewyr llinynnau byd-enwog ar gyfer rhaglen sy'n cynnwys cyfansoddwyr Rwsieg Shostakovich, Stravinsky a Tchaikovsky.

Meddai Valery Gergiev: "Fel pennaeth un o eiconau mwyaf diwylliant Rwsia, y Theatr Mariinsky yn St Petersburg, mae’n cynhesu fy nghalon bod prif sefydliadau diwylliannol Cymru yn ymuno â'i gilydd i ddathlu cyfoeth artistig fy ngwlad, sydd wedi ysbrydoli cynifer.  Mae canmlwyddiant Chwyldro Rwsia yn amser i fyfyrio ac mae'r celfyddydau yn gyfrwng delfrydol i archwilio'r digwyddiad hanesyddol hynod. Mae gen i lawer o atgofion hapus o arwain Opera, Ballet a Cherddorfa Mariinsky yng Nghymru ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld eto yn ystod Tymor R17 gyda’r Mariinsky Stradivarius Ensemble. Rwyf wrth fy modd i fod yn un o noddwr Tymor 17 Rwsia yng Nghymru."

Bydd Gergiev yn arwain y Mariinsky Stradivarius Ensemble i berfformio Symffoni Siambr Shostakovich mewn C lleiaf, Op 110, Concerto Stravinsky yn D 'Basel' a Tchaikovsky's Serenade for Strings yn C, Op 48 yn Theatr Dora Stoutzker, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar Dydd Mawrth 11 Hydref 2017.

Back