P.A.R.A.D.E.

Dyddiad: 24/10/2017 to 25/10/2017
Lleoliad: Canolfan y Mileniwm / Wales Millennium Centre
Amser: 13:00; 19:00

Mae Chwyldro yn y gwynt — ymunwch â’r P.A.R.A.D.E 

Yn cynnwys dawns, cerddoriaeth a robot awyr afreolus mae P.A.R.A.D.E yn wledd i’r llygaid wedi ei greu gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a’r artist Marc Rees a bydd yn cael ei gynnal yng nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ar 24 a 25 Hydref, a Pontio ym Mangor ar 27 a 28 Hydref. 

Ymunwch â ni tu allan wrth i’r protestiadau fagu stêm, y gorymdeithiau’n cyrraedd a’r areithwyr yn dringo i’r llwyfan – ond a yw popeth fel yr ymddengys? Wrth i chi gael eich tywys trwy’r gosodiad-celfyddydol er mwyn mynd i’ch seddau yn y theatr, fe fyddwch yn clywed sain gogoneddus Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’ch trochi mewn dau ddarn o ddawns: comisiwn newydd gan Marcos Morau a’r darn nas gwelir ond yn hynod anfynych sef Parade, a goreograffwyd gan gyfarwyddwr artistig CDCCymru Caroline Finn.

Mae’r digwyddiadau hyn yn ail-greu perfformiad cyntaf Parade  ganrif yn ôl ym 1917. Yn chwyldroadol ac yn achos tramgwydd roedd yn gywaith artistig rhwng y coreograffydd Leonide Massine, yr awdur Jean Cocteau, y cyfansoddwr Erik Satie, a’r cynllunydd Pablo Picasso ar gyfer y cwmni dawns Ballets Russes, a osododd y seiliau ar gyfer y mudiad swrrealaidd.

Mae P.A.R.A.D.E yn rhan o dymor Rwsia ’17 sy’n nodi canrif ers y chwyldro Rwsiaidd ac yn cynnwys ystod o ddigwyddiadau sy’n dal ffrwydrad cymdeithasol a diwylliannol y cyfnod a chysylltiadau hanesyddol Cymru â Rwsia ar y pryd. R17.wales

Mae’r digwyddiad awyr agored yn rhad ac am ddim a medrwch ddod draw ar y dydd. Mae angen tocyn ar gyfer y perfformiad yn y theatrau a gellir prynu'r rheini rhag blaen ynteu ar y dydd.

Cyflwynir gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Marc Rees

Mewn cydweithrediad â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Rubicon DanceDawns i Bawb.