Beth sy 'mlaen: drama


Holl Drama Cerddoriaeth Opera Celf Ffilm Ffotograffiaeth Siarad Dawns
  • Bydd Theatr Iolo yn dathlu'r canmlwyddiant gyda chyfres o weithdai, darlleniadau a pherfformiadau craidd ar gyfer ysgolion uwchradd, colegau a grwpiau theatr ieuenctid. Byddwn yn archwilio'r datblygiadau chwyldroadol yn ymarferion theatr Rwsia o amgylch y cyfnod hwn gan Meyerhold, Michael Chekhov, Stanislavsky a Vakhtangov a dramau fel Heart of the Dog gan Bulgakov. Bydd y gweithgareddau yn digwydd trwy gydol yr Hydref.

    Dyddiad: 01/09/2017 to 30/12/2017
  • Un o'r dramâu gorau erioed a’i hysgrifennwyd yn fuan cyn y chwyldro yn Rwsia, mae comedi Chekhov yn portreadu byd ar drothwy cynnwrf cymdeithasol. Mae'n astudiaeth ffraeth, tosturiol o ddiffygion dynoliaeth a'n gwrthodiad i wynebu'r hyn sydd o flaen ein llygaid. Mae'r ailweithio radical gan yr awdur Gary Owen a chyfarwyddwr Rachel O'Riordan yn gosod y ddrama yn y 80au cynnar ym Mhrydain, ar drothwy chwyldro arall - trefn Thatcher, a ysgubodd ymaith y consensws ar ôl y rhyfel a greodd y wlad yr ydym yn byw ynddo heddiw.

    Dyddiad: 13/10/2017 to 28/10/2017
    Lleoliad: Theatr y Sherman / Sherman Theatre; Caerdydd / Cardiff
    Amser: 14:00; 19:30
  • Comedi glasurol, dywyll Gogol wedi’i pherfformio gan yr actor arobryn Robert Bowman

    "... Mae Bowman yn crynhoi gwallgofrwydd yn berffaith wrth i ni ei wylio’n datgymalu o flaen ein llygaid a mynd yn ddyfnach i mewn i fyd ffantasi." - Western Mail

    Dyddiad: 02/11/2017 to 04/11/2017
    Lleoliad: Chapter Arts Centre / Canolfan Gelfyddydau Chapter
    Amser: 20:00
Past Events