Diary of a Madman

Dyddiad: 02/11/2017 to 04/11/2017
Lleoliad: Chapter Arts Centre / Canolfan Gelfyddydau Chapter
Amser: 20:00

Addasiad newydd.

Mae Poprishchin yn was sifil radd isel yn y Llywodraeth, yn brwydro i wneud ei farc ar fywyd, ond un diwrnod mae'n gwneud darganfyddiad anhygoel. A allai fod mewn gwirionedd yn Frenin nesaf Sbaen?

Wedi’i yrru’n wallgof gan fiwrocratiaeth llywodraeth a hierarchaeth, mae comedi dywyll Gogol yn datgelu realiti cynyddol un dyn wrth iddo fynd yn ddyfnach i fyd ffantasi swreal.

Wedi’i pherfformio gan yr actor arobryn Robert Bowman a'i chyfarwyddo gan yr enwebai Gwobr Olivier, Sinéad Rushe

"... Mae Bowman yn crynhoi gwallgofrwydd yn berffaith wrth i ni ei wylio’n datgymalu o flaen ein llygaid a mynd yn ddyfnach i fyd ffantasi" - Western Mail

"Mae Robert Bowman yn cyflwyno perfformiad gafaelgar fel Poprishchin - yn nerthol, deinamig ac yn llawn egni" - Broadway Baby

"Yn glyfar, dywyll a doniol ac, ar adegau, yn wirioneddol anesmwyth, mae 'Diary of a Madman' yn cael ei pherfformio yn wych"Edinburgh Spotlight