From Russia… With Love

Dyddiad: 20/10/2017
Lleoliad: Neuadd Dewi Sant / St David’s Hall, Caerdydd / Cardiff
Amser: 19:30

Mae tymor 2106/17 yn cychwyn yn danllyd ac angerddol gyda From Russia… With Love (Gwener 20 Hydref)

Canolbwynt y cyngerdd hwn yw’r un o’r concertos mwyaf poblogaidd erioed, sef Concerto Piano Rhif 2, gwaith sy’n dwyn i gof rhamant Rwsiaidd, trenau stêm a’r ffilm glasur Brief Encounter.

Mae Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd wrth eu bodd o groesawu Cerddor Ifanc y Flwyddyn BBC 2014, Martin James Bartlett yn unawdwr. Mae Nicola Benedetti wedi cyfeirio at Martin fel "cerddor naturiol a grymus, mae’n byw ac yn anadlu cerddoriaeth."

Mae bale Stravinsky, Petrushka, wedi gosod mewn ffair Nos Ynyd, a hwn yw ei waith mwyaf lliwgar. Mae popeth yn mynd yn hwylus nes daw tri phyped yn fyw....

Mae’r cyngerdd yn agor gyda mwy o gerddoriaeth bale, yr Adagio godidog o Spartacus gan Khachaturian.Os yw Concerto Piano Rhif2 Rachmaninov yn dwyn i gof trenau stêm yna mae poblogrwydd yr  Adagio o Spartacus  yn deillio o longau hwylio tal y rhaglen deledu The Onedin Line.


Khachaturian Adagio (from Spartacus) 

Rachmaninov Piano Concerto No. 2 in C minor 

Stravinsky Petrushka


Cardiff Philharmonic Orchestra

Michael Bell Conductor

Martin James Bartlett Piano