Khovanshchina

Dyddiad: 07/10/2017
Lleoliad: Canolfan y Mileniwm / Wales Millennium Centre
Amser: 19:00

Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno

Khovanshchina

Musorgsky

Yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn, aiff Khovanshchina â ni’n ôl i Rwsia yn yr 17eg ganrif lle mae’r wlad mewn cythrwfl. Ymuna’r pendefig Khovansky â’r Hen Gredinwyr wrth iddynt wrthryfela yn erbyn diwygiad modern sy’n cael ei orfodi gan y Tsar. Wrth i uchelgeisiau personol a gwleidyddol gyfuno a gwrthdaro gyda grymoedd cyfansoddiadol a chrefyddol, bydd y frwydr am rym yn arwain at ganlyniadau marwol. 

Daw David Pountney, Cyfarwyddwr Artistig y WNO, a Tomáš Hanus, y Cyfarwyddwr Cerdd newydd at ei gilydd ar gyfer yr adfywiad hwn o opera epig Musorgsky. Mae’n trin themâu fel gwleidyddiaeth, gwallgofrwydd a marwolaeth sydd mor berthnasol heddiw ag yr oedd mewn hanes. Wedi’u cyfuno â llwyfannu trawiadol a cherddoriaeth gorawl fythgofiadwy, addawa i fod yn ddigwyddiad na ellir ei golli yn Nhymor yr Hydref. 

Cenir yn Rwsieg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg.