Eugene Onegin

Dyddiad: 25/10/2017
Lleoliad: Venue Cymru, Llandudno
Amser: 19:00

Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno

Eugene Onegin

Tchaikovsky

Mae Tatyana yn eneth ifanc o’r wlad sy’n argyhoeddedig mai Onegin yw dyn golygus ei breuddwydion. Pan mae’n datgan ei hymroddiad iddo drwy lythyr caru, mae’n ei gwrthod a’i chywilyddio. Mae Onegin yna’n hoetio ar ôl chwaer hynaf Tatyana sydd wedi dyweddïo. Mae hyn yn cychwyn cadwyn o ddigwyddiadau trasig. Ceir chwedl am gariad annychweledig a’r ffyrdd y gall byd y boneddigion wrthdaro’n drychinebus. 

Dyma opera fwyaf poblogaidd Tchaikovsky, ac mae’n seiliedig ar nofel Alexander Pushkin o’r un enw. Mae lleoliadau cefn gwlad syml a chlasurol yn cyferbynnu â golygfeydd yn yr ystafell ddawns hardd a gwisgoedd cyfoethog sy’n adlewyrchu byd y boneddigion yn y cyfnod. Mae’r hanes ingol hon yn arddangos y frwydr rhwng dyheadau’r galon a chonfensiwn cymdeithasol. Ceir hyn oll mewn cytganau ac ariâu hynod ramantus ac atgofus. 

Cenir yn Rwsieg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg.