From the House of the Dead

Dyddiad: 26/10/2017
Lleoliad: Venue Cymru, Llandudno
Amser: 19:30

Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno

From the House of the Dead

Janáček

Wedi’i leoli mewn carchar clawstroffobaidd yn Siberia, mae cynhyrchiad David Pountney o From the House of the Dead yn gollage ysgogol o hanesion y carcharorion wrth iddynt adrodd pam y bu iddynt gael eu rhoi yn y carchar. Yn ystod cyfnod o ormes gwleidyddol, mae bob chwedl unigol yn archwilio’r eithafoedd yr aiff unigolyn i unioni cam. Daw llygedyn o obaith ar ffurf eryr mawr y mae’r carcharorion yn ei wella yn ofalus. Daw hyn yn symbol o Rwsia ond hefyd o ryddid ynddo’i hun. 

Bu i Janáček seilio’r gerddoriaeth a’r libreto ar atgofion lled-hunangofiannol yr awdur Dostoyevsky o Rwsia. Gwnaeth ef ei hun oroesi’r criw saethu o ganlyniad i ohirio dienyddiad dan law y Tsar. Ar lwyfan dilynwn hanes nifer o gymeriadau drwy gast a chorws ensemble, ond y prif gymeriad mewn gwirionedd yw Cerddorfa’r WNO, dan arweiniad Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerdd newydd y WNO. 

Cenir yn Saesneg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg.